Amdanaf

Mae’r syniadau’n dod o rannau o Gymru sy’n gyfarwydd i fi. Mae’r Gogledd a Phatagonia wedi tanio ambell gyfres, ond at ei gilydd Y Gorllewin yw’r ffynhonnell. Mympwyol yw’r testunau – Prom Aber, Preseli, Llyn Y Fan, arfordir Penfro, gwaith dychmygol, a mor-luniau arbrofol, a hyd y gwelaf, does dim patrwm i’r tueddiadau hyn, dim ond bod yr elfen ddamweiniol yn chwarae ei rhan.
Paent acrylic ac inc ar forden denau yw’r cyfrwng fel arfer.

Wrth i’r degawdau basio, mae’r gwaith yn mynd yn fwy awgrymog ȃ’r elfen storїol yn fwy blaenllaw.